This phase of engagement has ended.

Home

Am y Prosiect

1/2

Ynglŷn â'r prosiect

Rydym yn adolygu opsiynau teithio llesol i wella'r amgylchedd cerdded a beicio i drigolion ac ymwelwyr ym Menllech. Mae’r astudiaeth hon yn adeiladu ar astudiaethau blaenorol ac erbyn hyn mae pum coridor teithio llesol ar y rhestr fer a gwelliant creu lleoedd o amgylch y Sgwâr yng nghanol pentref Benllech. Nod cyffredinol y prosiect yw gwneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl deithio trwy ddulliau cynaliadwy o fewn ac i Fenllech.

Cliciwch drwy'r rhestr cynnwys isod am ragor o wybodaeth am y gwelliannau arfaethedig ym mhob coridor ac i weld cynlluniau ar gyfer pob un. 

Rhestr Cynnwys: 

Trosolwg o'r coridorau o fewn Benllech.


1/2

Crynodeb (Am y Prosiect)

I gael rhagor o wybodaeth am bob coridor, sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch Nesaf

Cynhaliwyd Astudiaeth Cam Un a Dau Arweiniad ar Arfanu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) rhwng Ionawr 2022 a Mai 2022. Roedd

Cam Un a Dau yn canolbwyntio ar nodi'r coridorau allweddol ar gyfer symud ym Menllech. Mae'r prosiect yn ffurfio Cam Tri o'r Astudiaeth, gyda'r nod o nodi gwelliannau dymunol ar hyd pob coridor gyda'ch cefnogaeth chi.

Nododd yr astudiaeth restr helaeth o broblemau sy’n cynnwys:

  • Darpariaeth gyfyngedig o seilwaith teithio llesol.
  • Diffyg mannau croesi diogel ac addas.
  • Nid yw preswylwyr yn teimlo'n ddiogel i gerdded a beicio.
  • Roedd y rhwydwaith priffyrdd yn dominyddu Benllech gyda phroblemau teithio llesol ac yn creu  amgylchedd gwael.
  • Mae niferoedd a chyflymder traffig uchel yn atal teithio llesol.
  • Angen gwella diogelwch Y Sgwâr.

Mae amcanion yr astudiaeth yn cynnwys:

  • Hyrwyddo a blaenoriaethu teithiau teithio llesol.
  • Gwella cyfleoedd ar gyfer ffyrdd iachach o fyw.
  • Cynyddu nifer y teithiau cerdded a beicio ar gyfer cymudo a hamdden.
  • Creu llwybrau cerdded a beicio deniadol, hygyrch a chyfforddus.
  • Rhwydwaith diogel a chydlynol trwy wella diogelwch yn y Sgwâr.
  • Gwneud Benllech yn lle mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Gwelliannau Arfaethedig

Mae'r gwelliannau arfaethedig wedi'u nodi ar sail adolygiad o'r heriau presennol ym Menllech, pryderon a godwyd gan drigolion yn ystod ymgynghoriadau, ac aliniad â pholisïau ac amcanion. 

Overview map summarising the proposed improvements across all corridors.

Map trosolwg yn crynhoi'r gwelliannau arfaethedig ar draws yr holl goridorau.


Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
Overview.pdf
pdf
1/2

Y Sgwâr

Sgroliwch i waelod y dudalen i weld yr holl gynlluniau a delweddau, a chliciwch nesaf i weld y coridor nesaf. 

Yr opsiwn sy'n dod i'r amlwg i wella diogelwch i bobl ar y gyffordd hon yw:

  • Darparu mwy o le ar gyfer llwybrau troed ar gorneli'r gyffordd.
  • Symud y groesfan i gerddwyr i fod yn agosach at y man lle mae pobl eisiau croesi, ac ychwanegu croesfannau ar y breichiau eraill.
  • Byddai cyflwyno systemau unffordd ar Goridorau 1 a 4 yn lleihau nifer y ceir sy'n troi ar y gyffordd, gan wella diogelwch i gerddwyr.

Drawing illustrating the proposed improvements at The Square (including more footpath space and locations of the proposed pedestrian crossings).Darlun yn dangos y gwelliannau arfaethedig yn Y Sgwâr (gan gynnwys mwy o le i lwybrau troed a lleoliadau'r croesfannau cerddwyr arfaethedig).

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-6000_01_The Square (1).pdf
pdf
BeforeAfter
1/2

Coridor 1: Y Sgwâr i Ffordd Bay View (ar hyd Ffordd y Traeth)

Sgroliwch i waelod y dudalen i weld yr holl gynlluniau a delweddau, a chliciwch nesaf i weld y coridor nesaf .

Yr opsiwn a ffefrir sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y ffordd hon yw Opsiwn 1a i:

  • Adeiladu llwybr aml ddefnydd
  • Cyflwyno system unffordd tua'r de rhwng y Sgwâr a Maes Parcio Wendon Uchaf gan gynnwys nodweddion tawelu traffig.
  • Ychwanegu croesfan i gerddwyr ger Glan y Môr.
  • Cadw'r rhan fwyaf o'r mannau parcio ar hyd Glan y Môr.

Coridor 1: Opsiynau eraill

Nid dyma'r opsiynau a ffefrir sy'n dod i'r amlwg oherwydd cyfyngiadau gofod:

  • Opsiwn 1b: Troedffyrdd llydan ar ddwy ochr y ffordd.
  • Opsiwn 1c: Llwybr beicio ar wahân.
  • Opsiwn 1d: Lôn feicio gwrth-lif.

Darlun yn dangos gosodiad y gwelliannau arfaethedig i Opsiwn 1a ar hyd Coridor 1 (Y Sgwâr i Bay View Road trwy Beach Road)

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-1005_01_Corridor 1_E_Shared Use_2way south.pdf
pdf
BeforeAfter

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 1 yn y Llys.

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 1 ar Lan y Môr.


1/2

Coridor 2: A5025 Ffordd Amlwch (Y Sgwâr i Faes Carafanau Bodafon)

Sgroliwch i waelod y dudalen i weld yr holl gynlluniau a delweddau, a chliciwch nesaf i weld y coridor nesaf. 

Yr opsiwn a ffefrir sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y ffordd hon yw:

  • Mewnlenwi cilfan fysiau er mwyn darparu mwy o le ar gyfer llwybr troed i gerddwyr.
  • Ychwanegu croesfan i gerddwyr ger y maes chwarae.
  • Lledu'r llwybrau troed mewn mannau.

Darlun yn dangos y gosodiad arfaethedig a gwelliannau ar gyfer coridor 2 A5025 Ffordd Amlwch (Y Sgwâr i Faes Carafanau Bodafon)

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
Corridor 2 (Amlwch Rd to Bodafon Caravan Park).pdf
pdf

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd coridor 2 A5025 Ffordd Amlwch (Y Sgwâr i Faes Carafanau Bodafon) wrth y safle bws.

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd coridor 2 A5025 Ffordd Amlwch (Y Sgwâr i Faes Carafanau Bodafon) wrth y safle bws.

1/2

Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Ffordd y Sgwâr i Bwlch)

Sgroliwch i waelod y dudalen i weld yr holl gynlluniau a delweddau, a chliciwch nesaf i weld y coridor nesaf. 

Yr opsiwn a ffefrir sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y ffordd hon yw:

  • Ail-ddylunio mannau parcio tu allan i Ddeintyddfa Benllech i ddarparu mwy o le ar gyfer llwybrau troed.
  • Lledu ac ail-wynebu'r llwybrau troed.
  • Llwybr aml ddefnydd ar y llwybr troed dwyreiniol rhwng Ffordd Bwlch a Garreglwyd.
  • Ffurfioli'r gilfan o flaen siop y cigydd trwy osod ymyl palmant isel.
  • Croesfan newydd ger Ffordd Bwlch a chyffordd Rhianfa / Ffordd Bangor i ddarparu mynediad diogel rhwng safleoedd bysiau.

Darlun yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd rhan ogleddol Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Ffordd y Sgwâr i Fwlch)

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-3000_01_Corridor 3 (1).pdf
pdf

Darlun yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd rhan ddeheuol Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Ffordd Y Sgwâr i Fwlch).

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-3001_01_Corridor 3_South.pdf
pdf

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Y Sgwâr i Ffordd Bwlch) yng Ngwesty Breeze Hill.

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Y Sgwâr i Ffordd Bwlch) yn yr Orsaf Betrol.

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Y Sgwâr i Ffordd Bwlch) wrth y Safle Bws.

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 3: A5025 Ffordd Bangor (Y Sgwâr i Ffordd Bwlch) ar hyd yr Hawl Tramwy Cyhoeddus.

1/2

Coridor 4: B5108 Ffordd Llangefni

Yr opsiwn a ffefrir sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y ffordd hon yw Opsiwn 4f i:

  • Cyflwyno ffordd unffordd i Graig-y-Don o'r Sgwâr gyda mannau parcio, ynghyd â nodweddion tawelu traffig.
  • Lledu'r droedffordd ar un ochr i'r ffordd i greu mwy o le i gerddwyr a thrac beicio a rennir.

Coridor 4: Opsiynau eraill

  • Opsiwn 4a: Cyflwyno rhan unffordd tua'r dwyrain o'r Sgwâr hyd at Lôn Pant y Cudyn (ychydig i'r chwith o'r Orsaf Dân).
  • Opsiwn 4b: Llwybr aml ddefnydd
  • Opsiwn 4c: Unffordd yr holl ffordd i'r gyffordd a'r llwybr beicio ar wahân tua'r dwyrain.
  • Opsiwn 4d: Llwybr aml ddefnydd gyda man troi.
  • Opsiwn 4e: Un ffordd i Graig-Y-Don o'r Sgwâr.
BeforeAfter

Darlun yn dangos Opsiwn 4f yn amlinellu'r system unffordd arfaethedig i Graig y Don o'r Sgwâr.

Llun yn dangos yr opsiwn a ffefrir 4f a gwelliannau arfaethedig i gynnwys system unffordd i Graig-y-Don o'r Sgwâr gyda pharcio.

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-4004_01_Corridor 4_E_Shared use south side (1).pdf
pdf
Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-4005_01_Corridor 4_F_Shared use south side_with parking (1).pdf
pdf

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Opsiwn 4E ar hyd Coridor 4: B5108 Ffordd Llangefni.

Trawstoriad yn dangos y gwelliant arfaethedig ar gyfer Opsiwn 4f a ffafrir gan gynnwys parcio.

1/2

Coridor 5: Lôn Pant y Cudyn

Yr opsiwn sy'n dod i'r amlwg i wella diogelwch i bobl ar y gyffordd hon yw:

  • Llwybr troed newydd ar ochr chwith y ffordd a fyddai'n disodli'r glaswellt presennol.
  • Ychwanegu mannau parcio fel nad oes angen parcio ar y palmant.
  • Safleoedd bws newydd.
  • Mesurau tawelu traffig i annog cyflymder o 20mya.


  • Arosfannau bws newydd.
  • Mesurau tawelu traffig i annog 20mya.

Darlun yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 5: Lôn pant Y Cudyn.

Cliciwch isod i weld PDF

Document image preview
283040-ARP-XX-DR-CH-5000_01_Corridor 5.pdf
pdf

Trawstoriad yn dangos y gwelliannau arfaethedig ar hyd Coridor 5: Lôn Pant y Cudyn ar y Safle Bws.

This engagement phase has finished

Some people making comments

...

A person happy and a comment icon

...